Wedi’i leoli mewn tair canolfan fwyd ledled Cymru, mae ein tîm o arbenigwyr diwydiant a gydnabyddir yn rhyngwladol yn helpu cwmnïau bwyd a diod i dyfu, arloesi, cystadlu a chyrraedd marchnadoedd newydd. O fusnesau newydd i gwmnïau sefydledig, mae Arloesi Bwyd Cymru wrth law i ddarparu cefnogaeth dechnegol a masnachol.
Mae Canolfan Fwyd Cymru yn darparu gwasanaethau technegol i fusnesau newydd, busnesau bach a chanolig a gweithgynhyrchwyr bwyd cenedlaethol. Mae cyfres o gyfleusterau modern y Ganolfan yn cynnwys canolbwynt arloesi a gweithgynhyrchu sydd wedi’i ddylunio a’i gyfarparu i ddarparu ar gyfer datblygu cynnyrch a phrosesau ar raddfa fach a gweithgynhyrchu masnachol.
Mae’r Ganolfan hefyd yn rheoli pedair uned ddeor a ddyluniwyd yn arbennig i roi adeiladau safonol y diwydiant cychwynnol ac amgylchedd cefnogol i sefydlu troedle yn y diwydiant bwyd a diod.
Mae gan y Ganolfan Technoleg Bwyd ystod o offer modern peilot a diwydiannol i ymgymryd â phob agwedd ar ddatblygu cynnyrch newydd hyd at lansiad cynnyrch llwyddiannus. Mae hyn yn caniatáu i’r cleient gynhyrchu cynhyrchion ar raddfa beilot i sicrhau gwerthiannau gan fanwerthwyr cyn buddsoddi mewn offer. Mae’r Ganolfan hefyd yn elwa o gyfres dadansoddi synhwyraidd a labordy wedi’i gyfarparu’n llawn.
Mae’r Ganolfan Technoleg Bwyd hefyd yn gweithio gydag ystod eang o fusnesau, o fusnesau newydd i gwmnïau cenedlaethol sydd eisiau cefnogaeth gydag achrediad trydydd parti.
Mae Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd wedi’i sefydlu’n bwrpasol i gefnogi’r diwydiant bwyd a diod. Rydym yn cyflogi technolegwyr bwyd a diod profiadol, arbenigwyr busnes a gweithwyr academaidd sy’n arbenigo ym mhob agwedd ar ymchwil, arloesi, prosesu a chynhyrchu bwyd a diod ynghyd â materion masnachol, gweithredol a thechnegol perthnasol.
Mae cyfleusterau ZERO2FIVE yn cynnwys ystafelloedd becws a melysion yn ogystal â chegin datblygu cynnyrch newydd, ystafell ddadansoddi synhwyraidd a labordy profiad canfyddiadol o’r radd flaenaf.
Trwy Brosiect HELIX, mae gan gwmnïau bwyd a diod cymwys o Gymru fynediad at ystod o gymorth technegol a masnachol wedi’i ariannu gan Arloesi Bwyd Cymru.