A yw’ch cwmni wedi’i restru yng nghyfeiriadur Bwyd a Diod Cymru? Os na, rhestrwch eich busnes bwyd a diod am ddim er mwyn cael cysylltiad â phrynwyr cenedlaethol a rhyngwladol. P’un a ydych chi’n gynhyrchydd cynhwysion, yn wneuthurwr bwyd a diod; neu’n wneuthurwr pecynnu, mae’r cyfeirlyfr yn offeryn hanfodol i hyrwyddo busnesau Cymru yn sioeau masnach, cynadleddau a digwyddiadau diwydiant eraill yn y DU a thramor.
Os ydych wedi cofrestru o’r blaen, diweddarwch eich proffil yma i fanteisio ar nodweddion newydd gan gynnwys y gallu i hysbysebu gallu gweithgynhyrchu, cyd-bacio ac allforio; cysylltu â phartneriaid yn y gadwyn gyflenwi; neu hysbysebu sgil-gynhyrchion a gwastraff.
Os hoffech chi ddiweddaru rhestriad a grëwyd ar ein gwefan flaenorol, yna crëwch gyfrif newydd ac e-bostiwch FoodDirectory@cardiffmet.ac.uk fel y gallwn gysylltu’r cofnod presennol â’ch cyfrif.