Cyflenwr cynnyrch Cymreig mwyaf Cymru yw Puffin Produce Ltd. Ers 1995 maen nhw wedi cyflenwi cynnyrch Cymreig i sawl adwerthwr a chyfanwerthwr mawr. Mae’r cwmni cyfan yn eiddo i dyfwyr ac yn cyflogi tua 150 o bobl yn ei phencadlys yn Sir Benfro.
Mae gan Puffin Produce berthynas gwaith hirsefydlog gyda’r Ganolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE ers 2012.
Mae ZERO2FIVE wedi parhau i gefnogi Puffin Produce un diwrnod pob mis fel rhan o Broject HELIX er mwyn ychwanegu at dimau awdit mewnol a thechnegol y cwmni.
Mae’r gefnogaeth yma wedi galluogi i Puffin Produce gael adnodd technegol annibynnol parhaus, mecanwaith cefnogaeth ar gyfer ymholiadau technegol, mentora ar gyfer timau technegol a sicrhau ansawdd y cwmni, a rhaglen strwythuredig ar gyfer cefnogi amserlen awdit mewnol y cwmni.
Un o rolau allweddol ZERO2FIVE ydy gwneud awdit mewnol ar gyfer Puffin gan adolygu gweithdrefnau diogelwch bwyd yn annibynnol yn erbyn safonau BRCGS a’r adwerthwr.


Buddion y Gefnogaeth
Diolch i gyngor annibynnol ZERO2FIVE, mae Puffin Produce wedi adnabod diffyg cydymffurfiaeth a meysydd i wella wrth fesur yn erbyn safonau BRCGS a’r adwerthwr. Mae hyn wedi helpu Puffin Produce i gynnal eu harferion diogel ca o ganlyniad i hyn, i gadw ei ardystiad trydydd parti a’i rhestrau adwerthu.
O ganlyniad i wybodaeth ac arbenigedd tîm technegol ZERO2FIVE, rydyn ni wedi gallu addasu a chryfhau ein systemau rheoli ansawdd yma yn Puffin Produce; golygai hyn i ni gadw ein hardystiad BRCGS a Red Tractor. Mae’r cymorth y cawsom ni gan ZERO2FIVE wedi bod yn hynod o werthfawr ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda nhw.