Ymunodd Arloesi Bwyd Cymru â’r ddirprwyaeth bwyd a diod o Gymru yn yr Expo Bwyd a Diod yn NEC Birmingham rhwng 16-18 Ebrill 2018. Dosbarthodd tîm Arloesi Bwyd Cymru gopïau o’r Cyfeiriadur Cynhyrchwyr, sy’n rhestru dros 450 o fusnesau bwyd a diod yng Nghymru, a thrafododd yr ystod o gefnogaeth dechnegol a masnachol y gallant ei chynnig.

Dangosodd ardal bwyd a diod Cymru gynnyrch o 30 o gwmnïau bwyd a diod yng Nghymru. Mae llawer o’r busnesau, gan gynnwys Authentic Curry Co, Bug Farm Foods, Mario’s, Sabor De Amor a The Bake Shed eisoes wedi derbyn cymorth gan y tair canolfan fwyd sy’n rhan o Arloesi Bwyd Cymru.
Roedd y cynnyrch arloesol o Gymru oedd i’w gweld yn cynnwys bariau byrbryd protein uchel Fori, dŵr mwg arobryn Halen Môn, rym sbeislyd Barti Ddu â gwymon Sir Benfro a saws dipio tsili melys â choriander Dylan.

Daeth dros 30,000 o ymwelwyr a 1,500 o arddangoswyr i’r arddangosfa bwyd a diod, sef un o’r dyddiadau allweddol yng nghalendr bwyd a diod y DU. Cafodd detholiad o gwmnïau Cymreig y cyfle i arddangos eu cynnyrch gyda Nigel Barden, cyflwynydd Radio 2 fel rhan o bâr o ddigwyddiadau brecwast Wake up with Wales.

Os nad oeddech chi’n gallu bod yn breesnnol yn yr Expo Bwyd a Diod, yna gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am fusnesau bwyd a diod Cymru yn y Cyfeiriadur Cynhyrchwyr Arloesi Bwyd Cymru.