Mae adroddiad newydd yn dangos sut y mae menter strategol a gynlluniwyd i hybu arloesedd ac effeithlonrwydd yn niwydiant bwyd a diod Cymru wedi cyflawni dros £44m o effaith yn ei ddwy flynedd gyntaf, trwy helpu busnesau i gynyddu a chadw gwerthiannau, ynghyd â lleihau gwastraff a chostau prosesu.
Mae Prosiect HELIX, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd, yn cael ei gyflawni gan Arloesi Bwyd Cymru, sy’n bartneriaeth o dair canolfan fwyd yng Nghaerdydd, Ceredigion ac Ynys Môn.
Amcan allweddol Prosiect HELIX yw cefnogi, trwy drosglwyddo gwybodaeth, cynhyrchwyr a gweithgynhyrchwyr bwyd a diod i oresgyn rhwystrau rhag tyfu trwy gynnig mynediad rhwydd at gefnogaeth ymarferol ac academaidd. Hwylusir hyn ymhellach gan y cyfleusterau gweithgynhyrchu diweddaraf sy’n darparu cymorth technegol a hyfforddiant pwrpasol sydd wedi helpu datblygu cannoedd o gynhyrchion newydd, tanio mwy o gynhyrchiant a lleihau gwastraff yn y gadwyn gyflenwi.
Mae prif allbynnau Prosiect HELIX hyd yn hyn yn cynnwys:
- creu 147 o swyddi a diogelu 869 o swyddi eraill
- cynorthwyo 172 o fusnesau
- darparu 173 o ddyddiau hyfforddi ar gyfer 217 o bobl
- cefnogi 92 o fusnesau newydd
- cael mynediad at 77 o farchnadoedd newydd
- datblygu 203 o gynhyrchion newydd
Wrth fynychu lansiad yr adroddiad yn Sioe Amaethyddol Cymru, bu Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, yn sôn am ba mor falch y mae o gynnydd y cynllun ac anogodd fusnesau i fanteisio ar y gefnogaeth sydd ar gael: “Mae’r ffigyrau hyn a gyhoeddwyd heddiw yn dangos hwb mor anhygoel y mae Prosiect HELIX wedi’i roi i’r diwydiant ac yn tanlinellu pa mor bwysig yw gosod arloesedd ynghanol y broses o danio twf. Byddwn yn annog cynhyrchwyr a gweithgynhyrchwyr i archwilio pa gefnogaeth sydd ar gael a sut y gall ei arbenigedd a’i gyfleusterau technegol uwch fod o fudd iddynt.”
Mae busnesau sydd eisoes wedi cael cefnogaeth yn cynnwys Mhairi Hill o Welsh Hills Bakery, a ddywedodd: “Bu’r rhaglen cymorth technegol a ddarparwyd gan Brosiect HELIX yn allweddol i ddatblygu’r gweithlu o ran hyfforddiant hylendid bwyd ac archwiliadau mewnol o’r system dechnegol i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â gofynion cwsmeriaid a Safon Diogelwch Bwyd Byd-eang BRC. Bu’n gymorth mawr hefyd yn helpu newid diwylliant y gweithwyr cynhyrchu a phecynnu o ran arferion gweithgynhyrchu da.”
Ychwanegodd Scott Davies o Hilltop Honey: “Rydym wedi defnyddio eu gwybodaeth arbenigol ar gyfer sawl prosiect, gan gynnwys datblygu cynhyrchion newydd, microbrofi a hyfforddiant pwrpasol. Gallwch ymddiried ynddynt i roi’r gwasanaeth gorau posib ichi ac rydw i’n edrych ymlaen at weithio gyda nhw am sawl blwyddyn arall.”
Yn y cyfamser, i Jonathan Williams o Pembrokeshire Beach Food Company: “Dydw i ddim yn siŵr beth fyddwn i wedi’i wneud pe na bawn i wedi cael eu help. Rwy’n gwybod y byddai wedi cymryd cymaint yn hirach imi gyrraedd ble rydw i erbyn hyn ac nid yw’n debygol y byddwn i’n cyflenwi M&S gan na fyddai’r wybodaeth fasnachol wedi bod gen i heb eu cymorth nhw.”