
Mae cwmni bwyd a diod newydd yn Llantrisant wedi ennill lle ar y rhestr fer ar gyfer gwobr arloesi gwta bedwar mis ar ôl dechrau masnachu yn dilyn cefnogaeth gan brosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.
Mae Kind Protein, busnes bach sy’n gwneud cegeidiau fegan seitan a bariau byrbryd ger Llantrisant, wedi curo cannoedd o gwmnïau eraill i ennill lle yng nghategori Arloesydd Gwobrau Cynhyrchwyr Newydd y Speciality Food Magazine. Diolch i gefnogaeth Prosiect HELIX, menter a luniwyd i hybu arloesedd ac effeithlonrwydd yn y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, y cafodd Kind Protein y cyfle i lansio eu cynhyrchion yn llwyddiannus.
Sefydlodd Hannah Seifert Kind Protein pan sylwodd ar dwf bwyd fegan a bwlch yn y farchnad i gynhyrchion seitan o ansawdd da. Gan nad oedd ganddi unrhyw brofiad blaenorol o gynhyrchu bwyd, dyma droi at ZERO2FIVE Canolfan y Diwydiant Bwyd, ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd am gefnogaeth.
Cefnogodd ZERO2FIVE Hannah trwy gyfrwng cyllid Prosiect HELIX i ysgrifennu cynllun Dadansoddi Peryglon a Man Rheoli Allweddol (HACCP) fel y gallai roi trefniadau diogelwch effeithiol ar waith. Cafodd gymorth hefyd i ddatblygu gwaith papur cynhyrchu a chymorth gyda dadansoddi maethol a labelu fel bod unrhyw honiadau a wnaeth am gynhyrchion yn gyfreithlon.
Yn dilyn y gefnogaeth, meistrolodd Hannah y prosesau sydd eu hangen i gynhyrchu cynhyrchion bwyd diogel ac aeth ei chwmni ymlaen i gael graddiad hylendid o bump gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Lansiwyd Kind Protein yn llwyddiannus ym mis Mai 2018 ac fe’i rhoddwyd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Cynhyrchwyr Newydd y Speciality Food Magazine gwta bedwar mis yn ddiweddarach.
Dywedodd Hannah Seifert, perchennog Kind Protein,“Fe gysyllton ni â ZERO2FIVE Canolfan y Diwydiant Bwyd gan ein bod yn fusnes newydd heb unrhyw wybodaeth flaenorol am y diwydiant cynhyrchu bwyd. Cawsom gymorth gwych ganddynt trwy esbonio diogelwch bwyd a’n cefnogi i ysgrifennu ein cynllun HACCP. Roedd y tîm yn wybodus ac yn barod iawn eu cymwynas, ac yn amyneddgar gan fod gennym ddigon o gwestiynau!”
Ychwanegodd yr Athro David Lloyd, Cyfarwyddwr ZERO2FIVE Canolfan y Diwydiant Bwyd, “Mae Project HELIX yn anelu at hybu arloesedd ac effeithlonrwydd yn y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, ac felly mae mor dda gweld cydnabyddiaeth genedlaethol i gwmnïau newydd arloesol o Gymru y buon ni’n gweithio â nhw fel Kind Protein. Trwy’r math yma o gefnogaeth y mae Prosiect HELIX wedi gallu cyflawni gwerth dros £44m o effaith i fusnesau bwyd a diod yng Nghymru o fewn dwy flynedd gyntaf ei fodolaeth.”
Mae Prosiect HELIX yn cael ei gyflawni gan Arloesi Bwyd Cymru, sef partneriaeth o dair canolfan fwyd yng Nghaerdydd, Ceredigion ac Ynys Môn.