Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Arloesi Bwyd Cymru wedi cael ei benodi’n Bartner Rhwydwaith yn Sefydliad Arloesi a Thechnoleg Bwyd Ewropeaidd (EIT) Food, menter arloesi bwyd mwyaf blaenllaw Ewrop. Gyda chefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru, bydd hyn yn sefydlu presenoldeb gan EIT Food yng Nghymru, ac yn cysylltu’r diwydiant Cymreig â chonsortiwm ehangach o unigolion allweddol o fewn y diwydiant, busnesau newydd, canolfannau ymchwil a phrifysgolion o bob rhan o Ewrop.
Mae EIT Food yn anelu at gydweithio’n agos â defnyddwyr i ddatblygu gwybodaeth newydd a chynnyrch a gwasanaethau yn seiliedig ar dechnoleg, gan yn y pen draw ddarparu dull o fyw iachach a mwy cynaliadwy i bob dinesydd Ewropeaidd. Bydd bod yn aelod o EIT Food yn galluogi Arloesi Bwyd Cymru i fod yn flaenllaw ym maes technoleg ac ymchwil, ac i greu partneriaethau rhyngwladol i hybu’r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru a thu hwnt.
Meddai Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, “Wrth inni baratoi ar gyfer yr heriau a ddaw gyda Brexit, mae arloesi yn sicrhau bod bwyd a diod yn gallu gwrthsefyll hyn ac yn chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant yng Nghymru. Dwi felly wrth fy modd bod Arloesi Bwyd Cymru wedi dod yn aelod o EIT Food.”
“I gefnogi hyn, bydd cyllid Llywodraeth Cymru yn creu sylfaen newydd i gryfhau y cysylltiadau Ewropeaidd cydweithredol hollbwysig drwy EIT Food. Bydd yn golygu ein bod yn flaenllaw ym maes yr ymchwil diweddaraf ac yn galluogi inni lunio partneriaethau newydd yn enwedig yn ystod yr amseroedd heriol hyn. Mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn cryfhau ein partneriaethau gyda gwledydd a rhanbarthau ledled Ewrop, a bydd digwyddiad Blas Cymru yr wythnos nesaf yn gyfle perffaith i ddangos bod ein huchelgais i gydweithredu yn rhyngwladol yn gryfach nag erioed.”
Meddai Andrew Carlin, Cyfarwyddwr canolfan arloesi gogledd-orllewin Ewrop EIT Food, “Rydyn ni wrth ein boddau gweld Arloesi Bwyd Cymru yn ymuno â chymuned EIT Food. Maent yn rhan hanfodol o’n hymrwymiad i arloesi bwyd yn y rhanbarth a ledled Ewrop, ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â hwy yn eu hymgyrch i ddatblygu dyfodol y sector bwyd yng Nghymru.”
Ar ran Arloesi Bwyd Cymru, meddai yr Athro David Lloyd, “Yn ddiweddar, rydyn ni wedi canolbwyntio llawer ar ddarparu cymorth technegol a gweithredol i’r sector bwyd yng Nghymru sydd wedi arwain at dwf sylweddol i gwmnïau. Fodd bynnag, rydyn ni wedi bod yn datblygu mwy a mwy o gysylltiadau gyda sefydliadau a busnesau eraill ledled y byd, ac felly’n falch iawn o ddod yn bartneriaid gydag EIT Food. Bydd y bartneriaeth newydd hon yn gwneud mwy i alluogi’r ecosystem bwyd a diod yng Nghymru i gysylltu ar draws ffiniau rhyngwladol ac i elwa o’r arbenigedd technegol, gwyddonol a gweithredol o safon ryngwladol.”