Mae Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i Lywodraeth Cymru, wedi datgan bod arloesi yn ganolog i lwyddiant y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru.
Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos, bron i ddwy flynedd ers ei lansio yn nigwyddiad cyntaf Blas Cymru, bod menter o’r enw Prosiect HELIX, i hybu arloesi ac effeithlonrwydd yn y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru eisoes wedi cael effaith o dros £82 miliwn.
Gan ddefnyddio’r cyfleusterau gweithgynhyrchu diweddaraf, mae’r cynllun wedi darparu cymorth technegol a hyfforddiant pwrpasol, sydd wedi helpu i ddatblygu cannoedd o gynnyrch newydd, wedi helpu busnesau i arloesi, i fod yn fwy cynhyrchiol, i wella sgiliau a lleihau gwastraff yn y gadwyn gyflenwi.
Hanner ffordd drwy’r cynllun, mae Prosiect HELIX ar y llwybr iawn i gyrraedd ei dargedau’n gynnar. Hyd yn hyn, mae’r cynllun wedi sicrhau manteision clir i’r sector gan gynnwys:
- creu 225 o swyddi newydd a 1150 o swyddi eraill wedi’u diogelu
- cynorthwyo 234 o fusnesau
- sefydlu 129 o fusnesau newydd
- mynediad i 203 o farchnadoedd newydd, a
- datblygu 273 o gynnyrch newydd.
Caiff y cynllun arloesi ei ddarparu mewn partneriaeth â thri o ganolfannau bwyd yng Nghaerdydd, Ceredigion ac Ynys Môn, fel rhan o Arloesi Bwyd Cymru.
Daw y ffigurau diweddaraf wrth i Arloesi Bwyd Cymru ddod yn bartner rhwydwaith i’r Sefydliad Arloesi a Thechnoleg Bwyd Ewropeaidd (EIT), prif fenter arloesi bwyd Ewrop. Gyda chymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru, bydd hyn yn sefydlu presenoldeb arbennig i EIT Food yng Nghymru, gan gysylltu’r diwydiant yng Nghymru gyda chonsortiwm ehangach o brif gwmnïau yn y diwydiant, busnesau newydd, canolfannau ymchwil a phrifysgolion ledled Ewrop.
Meddai Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, “Mae llwyddiant Prosiect HELIX yn dangos sut y gall gydweithio rhwng y byd academaidd, arbenigwyr o fewn y diwydiant a chynhyrchwyr ar lawr gwlad wneud gwahaniaeth mor fawr.
“Wedi’i gefnogi gan gyllid y Rhaglen Datblygu Gwledig, mae’r cynllun eisoes yn cyflenwi ac yn hyrwyddo’r sector. Hwb o £82 miliwn, creu swyddi newydd ac eraill wedi’u diogelu, cynnyrch newydd, lansio busnesau newydd, gweithlu mwy dawnus – mae popeth yn helpu i greu enw da Cymru yn y diwydiant bwyd a diod rhyngwladol.”