Bu arbenigwyr cynhyrchu caws o Ganolfan Bwyd Cymru yn rhannu eu harbenigedd gyda phartneriaid Arloesi Bwyd Cymru o Ganolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE.
Cafodd aelodau o dîm technegol ZERO2FIVE ddysgu gan un o feistri cynhyrchu caws; y Technolegydd Mark Jones o Ganolfan Bwyd Cymru, cynhyrchwr caws penigamp sydd wedi gweithio dros nifer o gwmnïau caws blaenaf Cymru.
Treuliodd Mark y diwrnod gyda thechnolegwyr ZERO2FIVE, yn esbonio’r broses a’r wyddoniaeth tu ôl i’r broses o greu caws o’r dechrau. O basteureiddio’r llaeth i ychwanegu’r meithriniad cychwynnol a chaul, torri’r ceuled, diferu’r maidd, a gwasgu’r caws mewn mowld, cafodd y dysgwyr profiad ymarferol o’r dechrau i’r diwedd yng nghyfleusterau llaethdy ansawdd uchel Ganolfan Bwyd Cymru.

Creodd y tîm caws oedd yn debyg i gaws Caerffili a Brie, gan ddysgu sut mae prosesau a meithriniadau gwahanol yn arwain at gynnyrch gorffenedig gwahanol. Er enghraifft, creu’r caws fel Brie trwy ddefnyddio’r mowld Penicillium Candidum sydd yn creu caws gyda nodweddion megis ymddangosiad gwyn allanol y caws ac yn arwain at ansawdd meddal fel menyn. I’r gwrthwyneb, wrth greu caws Caerffili, mae angen llosgi a melino’r ceuled gan arwain at ansawdd cadarn a briwsionllyd nodweddiadol y caws.

Os ydych chi’n gwmni newydd sydd am ddysgu sut mae cynhyrchu caws, gall Canolfan Bwyd Cymru rhannu eu harbenigedd gyda chwmnïau cymwys trwy Brosiect HELIX. Mae gan Ganolfan Bwyd Cymru arbenigedd mewn datblygu sawl math o gaws gan gynnwys caws glas, cheddar, caws caled yn yr arddull cyfandirol, halloumi, feta a chaws ceuled ffres a blasus. Mae eu cyfleusterau llogi hefyd ar gael i gwmnïoedd er mwyn cael gafael troed yn y diwydiant.
Os ydych chi am ddysgu mwy am sut mae Canolfan Bwyd Cymru yn helpu gyda chynhyrchu caws, cysylltwch â’r tîm ar 01559 362230 neu gen@foodcentrewales.org.uk.