
Mae gweithgynhyrchwyr bwyd a diod o bob rhan o Gymru yn gorfod addasu ac arloesi i heriau technegol a masnachol yr achos o COVID-19. Ar gyfer un busnes yn Rhydaman, gwaethygwyd yr her honno trwy gael ei lansio yng nghanol y broses o gyfyngiadau symud gyfredol.
Mae Y Gegin Maldod yn gyffeithiwr ar-lein sy’n gwerthu ystod o ddanteithion melys fel cyffug â blasau gwahanol, a bariau bisgedi sydd heb eu pobi. Cofrestrwyd y busnes ym mis Ionawr ac roedd y sylfaenydd, Louise Waring, wedi bwriadu treulio’r haf yn gwerthu mewn ffeiriau bwyd i adeiladu’r busnes.
Roedd Louise, dylunydd graffig ar ei liwt ei hun, wedi breuddwydio am agor busnes bwyd ers ei phlentyndod. Pan effeithiodd y pandemig ar ei gwaith dylunio, roedd ei menter newydd yn barod i’w lansio o fewn wythnosau.
Er mwyn sefydlu’r busnes mor gyflym, cefnogwyd Louise gan dechnolegydd bwyd o dîm Arloesi Bwyd Cymru a gefnogir gan Lywodraeth Cymru sy’n darparu cefnogaeth dechnegol wedi’i hariannu i wneuthurwyr bwyd a diod o Gymru.
Gan weithio gyda thechnolegwyr bwyd o Ganolfan Fwyd Cymru, un o dair canolfan Arloesi Bwyd Cymru, cefnogwyd Y Gegin Maldod trwy’r broses o arolygiad Iechyd yr Amgylchedd o bell, gan sicrhau bod gan Louise yr holl systemau cywir ar waith i weithredu ei busnes bwyd yn ddiogel o’i chartref. Bu tîm Canolfan Bwyd Cymru hefyd yn helpu gyda labelu i sicrhau cynhwysion cywir a rhestru alergenau, gwybodaeth am oes silff a disgrifiadau cyfreithiol o’r cynnyrch.
Dywedodd Louise Waring:
“Heb y gefnogaeth gan Arloesi Bwyd Cymru, gallaf ddweud yn onest na fyddwn yn rhedeg y busnes nawr. Rwy’n dal i fod yn ceisio gweithio allan gynlluniau HACCP a’r hyn yr oeddwn ei angen ar gyfer fy labeli – yn sicr ni fyddwn wedi cael cymeradwyaeth Swyddog Iechyd yr Amgylchedd i fasnachu. Mae eu cefnogaeth wedi bod yn amhrisiadwy i mi, gan fod gen i incwm bellach yn dod i mewn ar adeg pan na fyddai gen i ddim fel arall. Fe wnaethant hyd yn oed helpu i rannu eu cysylltiadau â chynhyrchwyr pobi eraill a chyflenwyr cynhwysion, sydd wedi arbed arian imi.
“Rydw i wedi pobi gartref yn ymarferol ar hyd fy oes, ond mae ei wneud ar raddfa dorfol i’w fwyta gan y cyhoedd yn gêm hollol wahanol – mae cymaint i’w ystyried yn dechnegol ac o bwynt diogelwch bwyd – mae’n frawychus iawn. Ond gyda’r wybodaeth maen nhw wedi’i rhoi i mi, rwy’n teimlo cymaint yn fwy hyderus. Rydw i mor ddiolchgar am y gefnogaeth barhaus rydw i’n dal i’w derbyn ganddyn nhw. ”
Dywedodd Arwyn Davies, Arloesi Bwyd Cymru:
“Mae hwn yn gyfnod heriol i weithgynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru, mae Arloesi Bwyd Cymru yma i ddarparu cefnogaeth. P’un a yw’n cynnig arweiniad ar ail-gyflunio’ch ffatri i ganiatáu ar gyfer pellhau cymdeithasol neu ddeall y risgiau diogelwch o werthu cynhyrchion yn uniongyrchol i gwsmeriaid, rydym yn annog cwmnïau i gysylltu â’u canolfan fwyd agosaf i ddarganfod mwy am y gefnogaeth a ariennir y gallwn ei chynnig.
“Mae’n wych gweld y llwyddiant y mae Y Gegin Maldod wedi’i gael mewn cyn lleied o amser ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Louise wrth iddi dyfu ei busnes newydd.”