
Mae Arloesi Bwyd Cymru wedi cynnig cymorth hanfodol i wneuthurwr bwyd a diod Cymru Lewis Pies yn ystod achos COVID-19 i’w helpu i barhau i gyflenwi eu cynnyrch i fanwerthwyr.
Mae ardystiad dilys gan sefydliadau diogelwch bwyd trydydd parti fel BRCGS a SALSA yn hanfodol i lawer o weithgynhyrchwyr bwyd a diod er mwyn cyflenwi manwerthwyr. Fodd bynnag, mae pandemig COVID-19 wedi peri nifer o heriau i’r ffordd y mae gweithgynhyrchwyr yn cwblhau archwiliadau mewnol a thrydydd parti yn erbyn y safonau hyn. Gydag arferion gweithio o bell ac ymbellhau cymdeithasol, yn straen gweithgynhyrchu ychwanegol, ac adnoddau cyfyngedig oherwydd bod staff wedi bod dan amgylchiadau ffyrlo, mae busnesau wedi gorfod addasu i gynnal eu hamserlenni archwilio.
Mae nifer o fusnesau wedi troi at Arloesi Bwyd Cymru i gael cymorth, gan gynnwys Lewis Pies o Abertawe. Cyflenwyr cynnyrch crwst sawrus o safon, bara a chacennau ledled Cymru a’r DU am fwy na 80 o flynyddoedd, gwelodd Lewis Pies leihad yn y galw am eu cynnyrch gan y sector gwasanaeth bwyd oherwydd y cyfnod clo COVID-19.
Gyda nifer o staff o dan amgylchiadau ffyrlo, gan gynnwys aelodau allweddol yn gallu cynnal archwiliadau mewnol, a phwysau ychwanegol eu tystysgrifau BRCGS yn cael eu hadnewyddu ar ddechrau Mehefin, cysylltodd Lewis Pies â ZERO2FIVE, canolfan diwydiant bwyd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd am gymorth.
Mae ZERO2FIVE, un o dair canolfan Arloesi Bwyd Cymru sydd wedi’i lleoli ledled Cymru, wedi cynorthwyo Lewis i gynnal archwiliadau mewnol o bell a darparu hyfforddiant i archwilwyr mewnol i staff technegol y cwmni sy’n weddill. Fel rhan o’r archwiliad o bell, cynhaliodd ZERO2FIVE adolygiad bwrdd gwaith o weithdrefnau, dogfennaeth prosesu a chofnodion ffatri a hyfforddiant y cwmni. Dilynwyd hyn gyda chynadleddau fideo i drafod unrhyw gamau yr oedd angen eu cymryd.
Roedd y gefnogaeth gan ZERO2FIVE yn hanfodol i alluogi Lewis Pies i gynnal eu hamserlen archwilio fewnol a chafodd y cwmni estyniad o chwe mis i’w ardystiad BRCGS ym mis Mehefin.
Meddai Emma Burgess, rheolwr technegol Lewis Pies:
“Mae pandemig COVID-19 wedi bod yn gyfnod anodd iawn i’r busnes, gan golli swm enfawr o’n masnach dros nos ynghyd â lleihad yn nifer y staff a’r arbenigedd. Drwy gydol y cyfnod hwn, mae’r cymorth a roddwyd gan Arloesi Bwyd Cymru wedi bod yn amhrisiadwy. Mae wedi bod yn amser llawn ansicrwydd a phwysau ac mae gwybod bod y sgiliau a’r wybodaeth yno i’n cefnogi wedi bod yn anhygoel.”
Dywedodd yr Athro David Lloyd, Arloesi Bwyd Cymru:
“Mae’n parhau i fod yn gyfnod heriol i’r rhai sy’n cynhyrchu bwyd a diod yng Nghymru ond mae Arloesi Bwyd Cymru wrth law i gefnogi cwmnïau i gynnal a chadw a chael ardystiad trydydd parti, sydd mor hanfodol o ran sicrhau rhestrau o fanwerthwyr. Rydym yn annog cwmnïau i gysylltu â’u canolfan fwyd agosaf i gael rhagor o wybodaeth am y cymorth a ariennir y gallwn ei gynnig.”