
Mae gweithgynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn cael eu hannog i ymrestru am ddim ar gyfer cyfeirlyfr ar-lein sy’n caniatáu iddynt hyrwyddo eu cynhyrchion i brynwyr yn y DU ac ar draws y byd.
Mae Cyfeirlyfr Bwyd a Diod Cymru yn bodoli i godi ymwybyddiaeth a sbarduno gwerthiant cynhyrchion Cymru ac mae eisoes yn cynnwys cofnodion gan dros 600 o gwmnïau.
Mewn ymdrech i hyrwyddo cynhyrchu bwyd cynaliadwy ac effeithlonrwydd gwastraff, mae nodweddion newydd y cyfeirlyfr yn caniatáu i ddefnyddwyr chwilio am sgil-gynhyrchion a chwmnïau i hysbysebu gwastraff a allai fod o werth i fusnesau eraill. Gall cwmnïau sydd eisoes wedi’u rhestru yn y cyfeiriadur ddiweddaru eu cofnodion gyda gwybodaeth yn y meysydd hyn.
Mae cwmnïau o bob maint i’w gweld yn y cyfeirlyfr, sydd wedi’i gynhyrchu gan Arloesi Bwyd Cymru ar ran Bwyd a Diod Cymru, a gall defnyddwyr chwilio am gynhyrchwyr, cyd-bacwyr, cyflenwyr cynhwysion a gweithgynhyrchwyr pecynnu yn seiliedig ar leoliad, categori cynnyrch BRCGS, sianel gyflenwi, gallu allforio ac ardystio.
Wrth siarad am Gyfeirlyfr Bwyd a Diod Cymru, dywedodd yr Athro David Lloyd, Cyfarwyddwr Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ac Arloesi Bwyd Cymru:
Yng ngoleuni’r newidiadau i berthynas fasnachu’r DU â gweddill y byd a rôl gynyddol sianeli gwerthu a hyrwyddo ar-lein sy’n deillio o COVID-19, mae’n bwysig bod cwmnïau bwyd a diod o Gymru yn arddangos eu cynhyrchion i gynulleidfaoedd mor eang â phosib. Mae’r cyfeirlyfr yn helpu i godi proffil cynhyrchion bwyd a diod Cymru arloesol yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. ”
I ddarganfod mwy am gyfeirlyfr Bwyd a Diod Cymru, ewch i: https://foodinnovation.wales/cyfeirlyfrau/?lang=cy