
9-11 Mawrth 2021
Mae’r Rhaglen Insight Bwyd a Diod ac Arloesi Bwyd Cymru yn dod â thridiau cyffrous o ddigwyddiadau mewnwelediad i chi. Yn ogystal â datgelu data diweddaraf y farchnad a rhagfynegiadau tueddiadau gan ddarparwyr mewnwelediad data blaenllaw, mae pob sesiwn yn canolbwyntio ar faes allweddol gyda siaradwyr arbenigol a phaneli i ateb eich cwestiynau. Y 4 thema yw: Manwerthu, Allan o’r Cartref, Allforio a Datblygu Cynnig Newydd.
Cipolwg Diweddaraf ar y Farchnad Fanwerthu – Dydd Mawrth 9 Mawrth 10:00-11:30
- Y tueddiadau a’r perfformiad manwerthu diweddaraf – Cathy Capelin, Kantar
- Ychwanegu gwerth drwy hyrwyddo ‘Cymreictod’ – Sophie Colquhoun, The Insight Programme
- Masnachu mewn manwerthu a pherfformio’n well – Neil Burchell, Menter A Busnes
- Panel Holi ac Ateb dan gadeiryddiaeth James Wright, Bwrdd y Diwydiant Bwyd / Aber Falls Distyllfa Whisgi
Y tu allan i’r Cartref – Dydd Mercher 10 Mawrth 10:00-11:30
- Perfformiad a thueddiadau bwyd a diod y tu allan i’r cartref – Lucy Chapman, Kantar
- Perfformiad a thueddiadau diodydd ar-fasnach – Phillip Montgomery, CGA (Arbenigwyr Blas ar Letygarwch)
- Astudiaeth Achos: Pifodi mewn Pandemig – David Evans, Dylan’s
- Defnyddio gwybodaeth am y diwydiant Ar-Fasnach i fasnachu’n well – Mark Grant, Levercliff
- Panel Holi ac Ateb dan gadeiryddiaeth Alison Lea Wilson, Bwrdd y Diwydiant Bwyd / Halen Môn.
Allforio – Dydd Iau 11 Mawrth 10:00-11:30
- Marchnadoedd fydd yn adnewyddu’n gynt a chategorïau eraill yn niwydiant Prydain all fod barod i’w hallforio – Jurgita Biceika, Euromonitor
- Dechrau Allforio a Marchnadoedd Newydd wrth Allforio – Jeremy Stoker BIC Innovation
- Astudiaeth Achos – Dechrau mewn Marchnad Newydd
- Panel Holi ac Ateb dan gadeiryddiaeth Bryson Craske, Bwrdd y Diwydiant Bwyd / The Abergavenny Fine Food Co.
Datblygu Cynnig Newydd – 11 Mawrth 2:00 – 3:35
- Rhagfynegiadau tueddiadau Siopwr y Dyfodol – June Kent, Kantar
- 2021/22 Y Deg Tueddiadau Bwyd a Diod Gorau – Charles Banks, The Food People
- Cymryd Cipolwg ar Gynhyrchion Newydd – Anne-Marie Flinn, Arloesi Bwyd Cymru
- Astudiaeth achos – Sut y gwnaeth gwybodaeth a mewnwelediad helpu i fireinio a datblygu fy nghynnyrch newydd
- Panel Holi ac Ateb dan gadeiryddiaeth David Morris, Bwyd a Diod Cymru
Yn cael ei gynnal gan Arloesi Bwyd Cymru a Rhaglen Mewnwelediad Bwyd a Diod Cymru, Ariannwyd gan Lywodraeth Cymru.
NODWCH: Mae cofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn ar gael i fusnesau cynhyrchu bwyd a diod yng Nghymru yn ogystal ag aelodau o rwydwaith Clwstwr bwyd a diod Llywodraethau Cymru YN UNIG – NID yw’r digwyddiad hwn ar gael i’r rhai y tu allan i Gymru.