Cefndir
Mae’r Clwstwr CEO wedi’i lansio fel rhan o raglen datblygu clystyrau Llywodraeth Cymru. Yn ôl yr Athro Michael E. Porter o Ysgol Fusnes Harvard: “Mae clwstwr o gwmnïau a sefydliadau annibynnol, wedi’u cysylltu’n ffurfiol yn cynrychioli ffurf sefydliad cadarn sy’n cynnig manteision o ran effeithlonrwydd, effeithiolrwydd a hyblygrwydd.” Mae’n debyg mai Silicon Valley yng Nghaliffornia yw’r enghraifft fwyaf llwyddiannus o glwstwr diwydiant.
Cwmpas y Clwstwr
Amcanion allweddol y clwstwr yw helpu busnesau i gyflawni twf cyflym o ran gwerthiannau, elw a nifer o staff.
Bydd y clwstwr hwn yn apelio at gwmnïau sydd â thargedau twf uchelgeisiol. Gallai’r twf hwn gael ei lywio gan gyfuniad o ffactorau, gan gynnwys arloesi, sianelau gwerthu newydd a datblygu cynnyrch newydd, a gall ein gwaith ategu’r rhain i gyd.
Arloesi Bwyd Cymru sy’n arwain y clwstwr hwn ac mae’n cynnig adnodd unigryw ar gyfer y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru.
Gweithgareddau Clwstwr
Bydd cwmnïau yn elwa o gydweithio â chwmnïau eraill ac o gefnogaeth a ddarperir gan Arloesi Bwyd Cymru a Llywodraeth Cymru.
Bydd y fenter yn defnyddio nifer o ffurfiau a gallai gynnwys:
- Rhannu adnoddau (e.e. offer)
- Cyd-fentrau gwerthu (e.e. cydweithredu i gamu i farchnad allforio newydd)
- Mynediad at gipolygon marchnad (e.e. ymchwil i’r farchnad)
- Mynediad at wybodaeth clwstwr (e.e. Arbenigedd Arloesi Bwyd Cymru)
- Rhannu profiadau a gwersi a ddysgwyd. Cysylltwch â ni
Am ragor o wybodaeth am y clwstwr hwn cysylltwch ac arweinydd y clwstwr:
Cyswllt Canolbarth Cymru – Natalie Fulstow
natalie.fulstow@ceredigion.gov.uk
07970 304697
Cyswllt Gogledd Cymru – Paul Roberts
paul.roberts@gllm.ac.uk
01248 383345
Cyswllt De Cymru – Martin Sutherland
msutherland@cardiffmet.ac.uk
02920 416228