Ar gyrion y Fenai yn Ynys Môn, dechreuodd busnes cynhyrchu bwyd arloesol yn 1997 dan law’r entrepreneuriaid Alison a David Lea-Wilson. Gyda’i gilydd, sefydlon nhw fenter gwneud halen, ar ôl darganfod y byddai dŵr môr pur Cymru yn cynhyrchu cynnyrch o ansawdd uchel.
Heddiw, mae Halen Môn yn cael ei ystyried fel halen môr gorau’r byd. Mae wedi cael ei weini mewn priodasau brenhinol ac yn y Gemau Olympaidd yn 2012. Mae hefyd wedi cael ei ganmol gan rai o gogyddion gorau’r byd, gan gynnwys Heston Blumenthal a Gordon Ramsay. Maent hefyd yn cyflenwi Marks and Spencer, Waitrose a Harvey Nichols.
Roedd Halen Môn yn bwriadu defnyddio deunydd pecynnu arloesol newydd ar gyfer eu halen. Roeddent am i’r Ganolfan Technoleg Bwyd asesu pa mor dda y mae eu cynnyrch yn ymddwyn wrth ei storio mewn gwahanol amgylcheddau tymheredd a lleithder fel y gallent ddewis yr ateb pecynnu gorau.
Gyda chyllid gan Prosiect HELIX, treialodd y Ganolfan Technoleg Bwyd samplau mewn tri math gwahanol o ddeunydd pacio cardbord. Gan ddefnyddio Siambr Cyflymder Golau, roeddent yn gallu nodi unrhyw newidiadau yng ngweithgaredd dŵr a chynnwys lleithder o fewn yr halen yn ogystal ag unrhyw newidiadau corfforol neu liw a nodwyd gyda’r deunydd pacio allanol.


Manteision y cymorth
Dangosodd y canlyniadau na fyddai’r rhwystr lleithder newydd yn well na’r un a ddefnyddir ar hyn o bryd. O ganlyniad, maent wedi lleihau oes silff y cynnyrch o bum mlynedd i dair mlynedd.
Roedden ni am brofi rhwystr lleithder/leinin mewnol newydd posibl ar gyfer ein pecynnau tiwb cardbord. Roedd hyn yn golygu rhoi prawf wedi'i gyflymu ar y pecyn gan mai pum mlynedd yw oes silff y cynnyrch.
“Roedd y Ganolfan Technoleg Bwyd yn drylwyr iawn, yn drefnus, yn broffesiynol ac yn ymateb yn gyflym. Mae'r gwaith a wnânt i gefnogi busnesau bwyd a diod lleol heb ei ail.”