Yng nghanol Mynyddoedd Duon Cymru, mae Helen Dunne yn cynhyrchu ei hystod ei hun o gyffeithiau yng nghegin ei chartref yn Nhalgarth. Nid yw ei jamiau, ei siytni a’i chyffrwyth meddal moethus cartref yn cynnwys unrhyw gyflasynnau na chadwolion artiffisial, ac maent yn cynnwys lefel uchel o ffrwythau a lefel isel o siwgr.
Cysylltodd Black Mountains Preserves â Chanolfan Bwyd Cymru gyntaf yng ngwanwyn 2020 a mynychu sesiwn cychwyn busnes ar-lein, a oedd yn egluro’r cymorth sydd ar gael a ariennir trwy Brosiect HELIX. Yna aeth Helen ymlaen i weithio gyda thechnolegydd bwyd.
Helpodd Canolfan Bwyd Cymru Helen gyda HACCP, er mwyn sicrhau bod yr holl weithdrefnau cywir yn cael eu defnyddio o’r dechrau, ac mae hyn wedi galluogi Helen i fabwysiadu systemau effeithiol ar gyfer sefydlu ei chynhyrchiad ei hun.


Manteision y cymorth
Mae’r cymorth a’r anogaeth a gafwyd gan dechnolegwyr bwyd Canolfan Bwyd Cymru wedi rhoi hyder i Helen gredu yn ei syniadau a pharhau i gynhyrchu ar raddfa fwy.
Mae Helen yn bwriadu parhau i weithio gyda Chanolfan Bwyd Cymru i ehangu’r gwaith cynhyrchu a chynyddu’r ystod, gan gynnal y broses ‘coginio cartref’ ar yr un pryd.
Chwaraeodd Ganolfan Fwyd Cymru ran ganolog yn fy ngwaith chynllunio a gweithredu HACCP. Yn bwysicaf oll, bod yno i drafod syniadau a chreadigaethau newydd.”