Mae Bluestone Brewing Co yn fragdy micro, a sefydlwyd yn 2013, wedi’i leoli ar y fferm deuluol yn Sir Benfro. Mae’n cynhyrchu cwrw casgen, baril, potel a thun crefft ac wedi ennill gwobrau. Mae ganddynt ddetholiad craidd o bum cwrw a detholiad sy’n cylchdroi o gwrw arbennig tymhorol.
Mae’r ethos y tu ôl i’r busnes wastad wedi ymwneud â chreu cwrw cynaliadwy â blas gwych yn gyfrifol a chyda chyn lleied o effaith â phosibl ar y blaned. Mae’r holl sgil-gynhyrchion o fragu yn cael eu hailddefnyddio ar y fferm neu eu bwydo’n ôl i’w hanifeiliaid. Mae’r dŵr maen nhw’n ei ddefnyddio i wneud eu cwrw’n dod o’u ffynnon eu hunain ac maen nhw hefyd yn cynhyrchu eu pŵer solar eu hunain.
Derbyniodd Bluestone Brewing gefnogaeth gan Ganolfan Bwyd Cymru pan ddechreuon nhw eu taith i gael eu hachrdu gan SALSA. Penodwyd technolegydd bwyd iddynt a fu’n gweithio’n agos gyda nhw i wella eu prosesau a sicrhau bod popeth yn ei le er mwyn pasio’r archwiliad.


Manteision y cymorth
Gwnaeth y cyngor a chymorth gan Ganolfan Bwyd Cymru eu helpu i gael eu hachrediad SALSA, gan sicrhau bod ganddynt yr hyder bod y cynhyrchion maen nhw’n eu cyflenwi yn ddiogel, yn gyfreithlon ac o ansawdd cyson.
Dywedodd Simon Turner, Sylfaenydd Bluestone Brewing, “Er mwyn cyflawni achrediad SALSA plus Beer roedd yn rhaid i ni ddangos bod gennyn ni systemau diogelwch bwyd o ansawdd uchel ar waith, ar bob agwedd ar ein busnes.
“Mae’r achrediad hwn wedi galluogi Bluestone Brewing i werthu i amrywiaeth ehangach o gwsmeriaid ac rydyn ni’n gobeithio gwerthu i rai o’r manwerthwyr mwy y mae SALSA yn ofyniad cyflenwad iddynt.”
Mae’r gefnogaeth rydyn ni wedi’i chael gan Ganolfan Bwyd Cymru wedi bod yn amhrisiadwy, roedd yn wych cael rhywun wrth law i ateb ein cwestiynau a’n cyfeirio i’r cyfeiriad cywir. Mae gwybodaeth a phrofiad tîm y Ganolfan wedi bod yn allweddol i’n harwain drwy’r broses.”