Brecon Carreg, wedi’i leoli ger Llandeilo, yw un o’r prif frandiau dŵr potel yn y DU. Sefydlwyd y cwmni ym 1978 ac mae’r 46 mlynedd diwethaf wedi gweld twf cadarn, ac erbyn hyn, mae gan y cwmni drosiant blynyddol sylweddol o £10.3M. Llwyddodd y cwmni hwn sydd wedi sicrhau ardystiad BRCGS gradd AA+ ac sy’n cyflogi 42 aelod o staff, i botelu 51.1 miliwn litr o ddŵr y llynedd, gan gyflenwi’r holl brif archfarchnadoedd yng Nghymru, yn ogystal â siopau Boots a Greggs ar draws y DU. Yn 2022, sicrhaodd y cwmni wobrau Great Taste am ei gynhyrchion dŵr tonig newydd â blas.
Dros yr wyth mlynedd ddiwethaf, mae Canolfan Bwyd Cymru wedi bod yn gweithio gyda’i dîm technegol a rheoli i gynnig cymorth cydymffurfiaeth ar gyfer ei ardystio BRCGS. Mae Technolegwyr Canolfan Bwyd Cymru yn rhan o raglen gweithgarwch trosglwyddo gwybodaeth er mwyn eu cynorthwyo i sicrhau eu ardystiad BRCGS, a oedd yn cynnwys cynnal Dadansoddiad blwch, cynllunio systemau a gweithdrefnau newydd a chynnal archwiliadau mewnol. Yn ogystal, er mwyn hwyluso’r cam o ehangu’r busnes, bu CanolfanBwyd Cymru yn cynorthwyo gyda chynllun y warws newydd a bu’n cynnig cymorth labelu ar gyfer y dŵr tonig newydd â blas, sydd wedi ennill gwobrau. Yn fwyaf diweddar, rhoddwyd diweddariad a chymorth pellach er mwyn sicrhau eu bod yn llwyddo i gynnal eu ardystiad BRCGS gradd AA+, wedi’i ddiweddaru i fersiwn 9 trwy Brosiect HELIX.


Manteision y cymorth
Roedd tîm technegol Brecon Carreg yn cael budd gan y wybodaeth a’r arbenigedd ychwanegol a ddarparwyd gan dîm technegol Canolfan Bwyd Cymru i feithrin eu sgiliau mewnol drwy Brosiect HELIX.
Mae Canolfan Bwyd Cymru wedi bod yn allweddol wrth drosglwyddo gwybodaeth er mwyn cynyddu lefel ein gwybodaeth o BRCGS, diogelwch bwyd a HACCP, gan ganiatáu i ni gynnal y safonau uchel a’r ardystiad gradd AA+ yn barhaus, sy’n arbennig o bwysig i’n cwsmeriaid.
“Rydym yn ddiolchgar iawn am y cymorth a gawsom, a mawr obeithiwn y gallwn barhau i gael cymorth technegol gan Ganolfan Bwyd Cymru er mwyn cynorthwyo Brecon Carreg i dyfu.”