Sefydlwyd In the Welsh Wind yn 2018 yn agos i arfordir Bae Ceredigion, yn sgil angerdd dros flasau go iawn a chynnyrch sy’n tarddu o Gymru. Yn gyflym, gwelwyd y freuddwyd wreiddiol o ddistyllu casgliadau bychain o jin crefft yn esblygu wrth iddo ddatblygu i fod yn ddistyllwr a chynhyrchwr gwirodydd gwreiddiol i nifer o fusnesau, yn ogystal â’i frandiau ei hun. Er bod y busnes yn gymharol ifanc o hyd, mae wedi sicrhau twf nodedig iawn, wrth i’w waith arloesol arwain at nifer o wirodydd sydd wedi ennill gwobrau, ac y caiff nifer ohonynt eu hallforio ar draws y byd.
Ym mis Mawrth 2020 ar ddechrau’r pandemig, fel distyllwyr eraill yn y DU, gwelwyd pobl yn troi at In the Welsh Wind yn gofyn am hylif diheintio dwylo. Bu technolegwyr bwyd o Ganolfan Bwyd Cymru yn cynorthwyo gyda’r gwaith o gynhyrchu Hylif diheintio dwylo trwy gyfrwng Prosiect HELIX. Gwnaethant sicrhau y dilynwyd y rysáit a ddarparwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn y ffordd gywir, gan helpu i weithredu’r broses gynhyrchu ar gyfer y cynnyrch mewn ffordd effeithiol. Bu’n rhaid delio â chryn dipyn o waith papur gan CThEF ynghylch newid y defnydd o gynhyrchu alcohol er mwyn cynhyrchu cynnyrch gwahanol, a bu’r technolegydd bwyd yn allweddol wrth goladu hwn. Roedd sicrhau bod y busnes yn cyflawni ei rwymedigaethau cyfreithiol heb wynebu goblygiadau toll alcohol pellach yn bwysig er mwyn gallu cynnig yr hylif diheintio dwylo yn rhad ac am ddim yn y lle cyntaf.
Roedd cynhyrchu chwisgi wastad wedi bod yn nod allweddol ar gyfer y busnes ac mae symud i le mwy yn 2019 wedi ei alluogi i gyflawni hyn. Yn ystod yr Hydref 2020, dechreuodd In The Welsh Wind arbrofi gyda barlys i greu ei broses unigryw o gynhyrchu chwisgi. Roedd cymorth pellach gan Dechnolegydd Bwyd wedi ei alluogi i brofi a threialu gwahanol ddulliau a defnyddio offer y ganolfan bwyd a ariannwyd trwy Brosiect HELIX. Rhyngddynt, datblygont ddull unigryw o brosesu’r barlys lle nad oes gofyn ei sychu mewn odyn. Nid yn unig y mae hyn yn cynnig manteision amgylcheddol enfawr trwy arbed ynni yn ystod y broses gynhyrchu, ond mae hefyd yn creu blas ‘grawn gwyrdd’ unigryw ar gyfer y chwisgi, na cheir mewn chwisgi a gaiff ei ddistyllu gan ddefnyddio dulliau traddodiadol.


Manteision y cymorth
Arweiniodd ymateb cyflym y technolegydd bwyd a fu’n cynorthwyo In The Welsh Wind trwy gyfrwng Prosiect HELIX at y busnes fod y distyllwr cyntaf yng Nghymru i gynhyrchu a chyflenwi hylif diheintio dwylo. Nid yn unig yr oedd hyn wedi gwneud cyfraniad aruthrol wrth reoli brigiad y clefyd, ond roedd wedi galluogi’r busnes i ddefnyddio adnoddau hefyd nad oeddent yn cael eu defnyddio ar gyfer ochr lletygarwch y busnes adeg y cyfnod clo.
Heb os, bu’r cymorth gan Ganolfan Bwyd Cymru yn allweddol wrth ein cynorthwyo i gynhyrchu’r hylif diheintio dwylo yn ystod y pandemig. Pe na baem wedi cael cymorth technolegydd bwyd yn gynnar, byddai wedi cymryd llawer hirach i ni sicrhau cymeradwyaeth i gynhyrchu. Byddai hyn wedi cael effaith anferth ar gyflenwad hylif diheintio dwylo yn yr ardal leol.”