Mae Lewis Pies wedi bod yn cyflenwi cynhyrchion toes sawrus, bara a chacennau o ansawdd ledled Cymru a’r DU am fwy nag 80 mlynedd.
Mae gan Lewis Pies berthynas waith hirsefydlog â Chanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE felly cysylltodd y cwmni â ni am gymorth technegol pan oeddent yn gweithio tuag at y Safon Diogelwch Bwyd BRCGS newydd (Rhif 8) ac ardystiad y Bwrdd Awdurdod Halal (HAB).
Cynhaliodd tîm technegol ZERO2FIVE drosglwyddo gwybodaeth helaeth mewn Diwylliant Diogelwch Bwyd ac elfennau newydd eraill o’r safon diogelwch bwyd ynghyd ag archwiliadau mewnol er mwyn gwirio systemau rheoli ansawdd y cwmni ar gyfer cydymffurfio â Safon Diogelwch Bwyd BRCGS, Rhif 8 a safonau HAB. Fe wnaethom hefyd ddarparu mentora ymarferol i’r tîm i weithredu’r holl gamau angenrheidiol sy’n ofynnol yn dilyn yr archwiliadau yn effeithiol.
Llwyddodd Lewis Pies i basio eu harchwiliad Diogelwch Bwyd BRCGS, Rhif 8, ym mis Mehefin 2019 ac ennill Gradd A. Bythefnos yn ddiweddarach fe wnaethant basio eu harchwiliad gan y Bwrdd Awdurdod Halal.


Buddion y gefnogaeth
Mae cael ardystiad BRCGS Diogelwch Bwyd, Rhif 8 wedi caniatáu i’r busnes gynnal ei sylfaen cwsmeriaid bresennol gan gynnwys QVC, a sicrhau cwsmer manwerthu newydd o bwys.
Mae dull ac arbenigedd proffesiynol ZERO2FIVE wedi bod yn amhrisiadwy i’n cwmni ac wedi ein helpu i gynnal ein hardystiad BRCGS a Halal trwy weithio ochr yn ochr â’n tîm technegol. Byddem yn argymell Prosiect HELIX yn fawr i weithgynhyrchwyr bwyd sydd angen cymorth technegol i gael ardystiad.