O ganlyniad i’r cyfnod ansicr sy’n wynebu’r sector amaethyddol gan gynnwys Covid-19, Brexit a chymorthdaliadau fferm sy’n lleihau, penderfynodd Gareth a Mari Jones arallgyfeirio eu busnes amaethyddol a sefydlu allfa ychwanegol ar gyfer eu llaeth, trwy ei werthu mewn peiriant gwerthu, ar y cyd â chynnyrch lleol.
Wedi’i lleoli yn Nghemaes, ar Ynys Môn, mae’r teulu ifanc lleol yn rhedeg Nant y Frân, fferm laeth. Mae gan y fferm ryw 300 o fuchod Fresia, sy’n cael eu godro yn y ffordd fwyaf cynaliadwy posibl. Mae’r gwartheg yn pori am fwyafrif y flwyddyn ac yn cynhyrchu llaeth o ansawdd da. Er mwyn cynnal y blas naturiol, nid yw’r llaeth yn cael ei homogeneiddio, dim ond ei basteureiddio’n ysgafn.
Mae’r peiriant gwerthu yn rhoi cyfle i bobl brynu llaeth lleol sydd wedi’i gynhyrchu gan fuchod sy’n pori llai na 700m o’r safle, yn uniongyrchol o’r fferm, sy’n lleihau’r milltiroedd bwyd ac yn cynyddu cynaliadwyedd y cynnyrch.”
Gellir hefyd troi’r llaeth heb ei homogeneiddio, wedi’i basteureiddio’n ffres, sydd ar gael o’r peiriant gwerthu, yn ysgytlaeth, gan fod y peiriant yn cynnwys suropau â blas. Ymhlith y blasau mae mefus, banana a siocled, gyda blasau arbennig wythnosol fel caramel, siocled oren, mafon a fanila.


Manteision y gefnogaeth
A hwythau wedi cael cyllid gan Project HELIX, cysylltodd y ffermwyr ifanc â’r Ganolfan Technoleg Bwyd i gael help gyda’r ddogfennaeth berthnasol oedd ei hangen i ddechrau gwerthu eu cynhyrchion i’w cwsmeriaid.
Dywedodd Gareth Jones o Llefrith Nant Dairy,
“Mae’r help a gawsom ni gan y Ganolfan Technoleg Bwyd wedi bod yn rhagorol. Maen nhw wedi bod mor gefnogol, yn ein helpu i sefydlu’r llaethdy, ein cynghori ar ba offer i’w brynu ac yna sut i gynnal a glanhau’r offer, yn ogystal â beth yw’r rheoliadau ar dymheredd a chemegau sydd eu hangen.
Y cam nesaf oedd profi ein llaeth cyn i ni ddechrau ei werthu i’r cyhoedd, ac mae’r ganolfan wedi gofalu am hynny. Mae’n wych bod y gwasanaeth hwn ar garreg ein drws ac nad oes raid i ni deithio’n bell.”
Yr hyn sydd wedi ein helpu fwyaf yw bod gennym ni un person i gysylltu â hi a gofyn popeth iddi. Mae Julia wastad wedi bod yno, a gallwch gysylltu â hi unrhyw bryd trwy e-bost neu ar y ffôn. Mae'n wasanaeth gwych.”