Mae gan Prima Foods, sydd wedi’i leoli yn Llanelli, flynyddoedd mawr o brofiad o gynhyrchu cymysgeddau pobi, cynhyrchion pobi gartref a chyfansoddion prydau.
Pan agorodd y cwmni gyfleuster coginio di-glwten gofal-uchel nodedig, fe wnaeth ZERO2FIVE ddilysu’n annibynnol waith gosod ffyrnau newydd Prima a’u cefnogi i sefydlu proffil coginio ac oeri ar gyfer eu cyfres newydd o gynhyrchion. Bu hyn yn gymorth i’r cwmni sicrhau diogelwch ac ansawdd y cynhyrchion.
Ar ail brosiect fe wnaeth ZERO2FIVE gyflawni gwerthusiad synhwyraidd o gyfres newydd Chef’s Promise o gymysgeddau cynhwysion sych. Drwy ddefnyddio swît gwerthuso synhwyraidd ZERO2FIVE, cafodd cymysgeddau di-glwten Prima eu meincnodi yn erbyn cynnyrch union-gyffelyb a oedd yn cynnwys glwten.


Manteision y cymorth
Tyfodd cyfres Prima o gymysgeddau di-glwten i gynnwys 10 o gynhyrchion sawrus a melys mae’r Gymdeithas Seliag yn eu cymeradwyo ac sy’n cael eu gwerthu ar-lein, mewn gwasanaeth bwyd ac o fusnes i fusnes.
Mae’r cymysgeddau wedi lansio’r datblygiad nesaf ym mhroses ehangu darpariaeth ddi-glwten y cwmni drwy fod yn sail ar gyfer cyfansoddion “parod i bobi”.
Mae ZERO2FIVE yn elfen gwbl hanfodol yn natblygiad technegol Prima Foods oddi ar 2011. Heb eu cymorth, byddai rhaid bod y busnes wedi cael llawer mwy o amser i foddhau galwadau dod yn gyflenwr ail-reng i fanwerthwyr aml-sianel a busnesau o’r radd flaenaf. Mae eu cyngor di-duedd, eu datblygiad staff cydweithredol a thrwch y cymorth sydd ar gael wedi galluogi Prima i wneud yr hyn y mae’n ei wneud orau yn hyderus ac mewn ffordd ddiogel.