Mae Alana Spencer yn nodedig am ennill y ddeuddegfed gyfres o The Apprentice ar BBC yn 2016, a derbyniodd fuddsoddiad gan yr Arglwydd Alan Sugar ar gyfer ei busnes cacennau moethus, Ridiculously Rich by Alana.
Mae sicrhau bod ei chynhyrchion yn cael eu cynhyrchu yng Nghymru gan ddefnyddio’r cynhwysion gorau wastad wedi bod yn bwysig i Alana, ac ym mis Hydref 2019 symudodd Ridiculously Rich i’w becws pwrpasol cyntaf yn nhref enedigol Alana, sef Aberystwyth. Cefnogwyd Alana gan dîm technegol Canolfan Bwyd Cymru trwy gydol y broses o symud i’w safle newydd trwy ei chynorthwyo gyda chynllun y ffatri, cyrchu offer a chynlluniau HACCP.
Helpodd Canolfan Bwyd Cymru ffatri newydd Alana i gyflawni safonau SALSA mewn chwe wythnos – cynhaliodd y technolegwyr bwyd ddadansoddiad bwlch o’r prosesau a’r gweithdrefnau er mwyn nodi’r meysydd yr oedd angen gweithio arnynt er mwyn ennill achrediad SALSA a chynnig arweiniad i gyrraedd y safonau hynny. Mae ennill achrediad SALSA ar y safle newydd wedi galluogi’r busnes i barhau â’i gynlluniau twf, cyrraedd sectorau marchnad newydd ac wedi agor mwy o gyfleoedd i’r busnes.
Yn ystod pandemig COVID-19 mae Canolfan Bwyd Cymru wedi bod yn cynorthwyo Ridiculously Rich gyda gofynion labelu a chynnwys ar gyfer ailfformatio labeli, a hynny ar ôl i gwsmeriaid ofyn am fwy o gynnyrch wedi’u pecynnu ymlaen llaw. Roedd Canolfan Bwyd Cymru ar gael i gynnig cyngor i Ridiculously Rich ar greu labeli sy’n cydymffurfio â’r gyfraith.


Buddion y gefnogaeth
Ers i’r becws agor yn swyddogol ym mis Hydref 2019, mae Ridiculously Rich by Alana wedi ehangu eu hystod o gynnyrch gan 30% ac wedi agor siop ar y safle i werthu cynhyrchion pwrpasol. Mae poblogrwydd y becws wedi arwain at giwiau mawr y tu allan i’r drws yn aml.
"Roedd yr help gan Ganolfan Bwyd Cymru yn anhygoel ac ni allem fod wedi gwneud hyn hebddyn nhw. Roedden nhw yno bob cam o'r ffordd, cyn i ni hyd yn oed adeiladu'r becws! Fe wnaethant ein helpu gydag unrhyw gwestiwn, boed yn fawr neu’n fach, a gwnaethant hyd yn oed ymweld â ni ar y safle ar sawl achlysur i roi’r arweiniad gorau i ni er mwyn cael ein cymeradwyo gan SALSA. Mae'r cyllid sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru yn hynod ddefnyddiol, byddai'r broses hon wedi cymryd llawer mwy o amser pe na baem wedi cael yr help hwn ac efallai y byddai twf y busnes wedi’i ohirio’n sylweddol."