Wedi’i sefydlu yn 2019, mae Pembrokeshire Lamb yn rhedeg eu fferm a’u busnes gydag ethos i hyrwyddo cynhyrchion cig oen Cymreig o’r giât i’r plât, sydd wedi’u magu ac y gofalwyd amdanynt â gwerthoedd ffermio traddodiadol. Mae bocsys cig y cwmni ar gael i’w dosbarthu ledled y DU.
Yn dilyn llwyddiant Pembrokeshire Lamb, penderfynodd y sylfaenwyr Steve a Kara gynhyrchu ystod o sawsiau i ategu eu cig oen. Mae sawsiau The Welsh Saucery sydd wedi ennill Gwobr ‘Great Taste’ yn cynnwys sos coch, brown, barbeciw, tikka a tsili mango.
Cynorthwyodd Canolfan Bwyd Cymru Pembrokeshire Lamb yn gyntaf yn hydref 2019 gydag ystod o wasanaethau, gan gynnwys datblygu system diogelwch bwyd, ymweld â safleoedd a’u hadolygu ynghyd â chefnogaeth gyda’u cynllun HACCP.
Yn fuan, symudodd Pembrokeshire Lamb ymlaen i ddatblygiad cynnyrch newydd cynhyrchion The Welsh Saucery, gyda llunio ryseitiau, HACCP, micro-brofi a chynhyrchu treialon, i gyd yn digwydd yn y Ganolfan Arloesi a Gweithgynhyrchu yng Nghanolfan Bwyd Cymru. Cynhaliodd y tîm o dechnolegwyr ddadansoddiad maethol a rhestrau cynhwysion ar gyfer y cwmni, er mwyn sicrhau eu bod yn dilyn gofynion labelu cyfreithiol. Yn ogystal, cawsant hyfforddiant ar sut i weithgynhyrchu ar raddfa fwy.


Buddion y gefnogaeth
Roedd derbyn cefnogaeth gan Ganolfan Bwyd Cymru yn gynnar yn nhaith y cwmni wedi caniatáu i Pembrokeshire Lamb ddysgu a meistroli’r systemau prosesu cywir o’r diwrnod cyntaf, ac felly sicrhau eu bod yn cynhyrchu cynhyrchion bwyd yn ddiogel ac yn effeithlon o’r cychwyn cyntaf.
Mae’r cwmni wedi caffael y sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu a chynhyrchu eu cynhyrchion newydd yn barod i’w marchnata. Maent wedi gallu defnyddio’r cyfleusterau a’r offer yng Nghanolfan Bwyd Cymru, gyda thechnolegwyr bwyd wrth law gyda gwybodaeth ac arbenigedd bob cam o’r ffordd.
“Mae Canolfan Bwyd Cymru wedi bod yn amhrisiadwy wrth ein cefnogi a’n tywys wrth gynhyrchu’r sawsiau a’n helpu i fod â’r hyder i lansio The Welsh Saucery. Heb Ganolfan Bwyd Cymru, rwy'n amau y byddem wedi cymryd y naid i sawsiau. Mae eu harweiniad a'u cefnogaeth yn ogystal â'u cyfleusterau wedi bod mor ddefnyddiol. "