Mae Trailhead Fine Foods o’r Trallwng wedi bod yn cynhyrchu jerky crefftus gyda Chig Eidion Cymu PGI o ffynonellau cyfrifol, wedi’i farinadu gan ddefnyddio rysáit gyfrinachol ac unigryw ers 2018. Mae’r jerky cig eidion yn uchel mewn protein, heb glwten ac yn isel mewn braster, gan ei wneud yn ddewis iach yn lle byrbrydau llawn siwgr a braster uchel.
Mae’r byrbrydau ar gael mewn mwy na 100 o stocwyr ledled y DU, gan gynnwys gorsafoedd gwasanaeth, siopau fferm, delicatessens, siopau cyfleustra, atyniadau i dwristiaid, bragdai, tafarndai a gwestai.
Er gwaethaf heriau pandemig COVID-19, mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn llwyddiannus iawn i Trailhead Fine Foods a chynhyrchion Get Jerky. Gyda siop ar-lein newydd a chwsmeriaid manwerthu newydd, cynyddodd eu gwerthiant 300 y cant yn 2020.
Yn ogystal â’u llwyddiant diweddar yng Ngwobrau’r Great Taste lle dyfarnwyd un seren yr un i’w blasau jerky cig eidion Tsili Sbeislyd a Teriyaki newydd, maen nhw hefyd wedi sicrhau archeb ar gyfer siopau mawreddog Selfridges yn ddiweddar.


O dan Brosiect HELIX, mae’r Ganolfan Technoleg Bwyd wedi gweithio’n agos gyda’r tîm yn Trailhead Fine Foods i sicrhau eu bod yn bodloni’r gofynion sydd eu hangen i gyflawni’r safon SALSA a gydnabyddir yn genedlaethol, sydd wedi agor cyfleoedd busnes newydd i’r cwmni byrbrydau.
Dywedodd Emma Morris, Rheolwr Datblygu Busnes Trailhead Fine Foods:
“Mae’r cyngor a’r cymorth y mae’r Ganolfan Technoleg Bwyd wedi’u rhoi i ni wedi bod yn amhrisiadwy. Gyda’u cymorth nhw, rydym ni wedi gallu cadw ein hardystiad SALSA.
“Heb ardystiad o’r fath mae’n anodd i fusnesau bwyd dyfu ac mae wedi cynnig cyfleoedd gwych i ni ennill cwsmeriaid newydd ac ehangu i farchnadoedd newydd.
“Nid yn unig y mae Bethan wedi ein helpu ni ond mae’r dogfennau perthnasol wedi ein hysbrydoli i gymryd perchnogaeth o’r broses fel y gallwn ni ddysgu a datblygu. Mae’r tîm cyfan yn y Ganolfan Technoleg Bwyd wedi bod yn gefnogol ac yn gymwynasgar. Maen nhw wedi bod yno gydol yr amser, yn ein sicrhau ein bod ni ar y trywydd cywir.”