Cynnyrch meddwl Edwards o Gonwy, y cigydd adnabyddus o Gonwy, gogledd Cymru sydd wedi ennill nifer fawr o wobrau, yw’r Cwmni Selsig Traddodiadol Cymreig. Ar ôl rhedeg y siop gigydd lwyddiannus ers y 1980au, sefydlwyd y chwaer gwmni tua 15 mlynedd yn ôl i gynhyrchu eu cynnyrch cig i’w werthu’n uniongyrchol i fanwerthwyr.
Bellach yn berchen ar ddau safle cynhyrchu bwyd, un ym Mangor a’r llall yng Nghonwy, mae’r Cwmni Selsig Traddodiadol Cymreig yn cyflenwi selsig, byrgyrs, cig moch, stêc gamwn a mwy i wahanol fanwerthwyr ledled Cymru.Ar ôl prynu’r ail safle cynhyrchu yn 2017 roedd angen i’r cwmni ehangu ei weithlu er mwyn helpu gyda gofynion y safle newydd.
Ym mis Hydref 2018, siaradodd y cwmni â’r Ganolfan Technoleg Bwyd a argymhellodd Raglen Trosglwyddo Gwybodaeth Prosiect HELIX, a thrwy hyn roedden nhw’n gallu recriwtio gweithiwr graddedig. Llwyddodd y gweithiwr graddedig i arwain yn gyflym ar feysydd allweddol gan eu helpu i ennill ardystiad BRCGS o fewn chwe mis ac ardystiad Tractor Coch yn fuan ar ôl hynny.


Gydag arweiniad y Ganolfan Technoleg Bwyd a mentora gweithiwr graddedig dan hyfforddiant, mae’r cwmni wedi gallu tyfu o nerth i nerth ac yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf maen nhw wedi cael eu hardystiad BRCGS, ynghyd â bodloni allbynnau prosiect a’r cwmni a chynyddu trosiant. Mae’r safleoedd cynhyrchu hefyd wedi cadw eu safonau uchel gyda safle Bangor yn Radd A a Chonwy yn Radd AA.
Dywedodd Kevin Murphy, Rheolwr Technegol y Cwmni Selsig Traddodiadol Cymreig (Edwards o Gonwy):
“Mae’r gefnogaeth rydym ni wedi’i chael wedi bod yn amhrisiadwy. Mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol o’r dechrau i’r diwedd. Maen nhw wedi ein harwain drwy’r broses recriwtio ar gyfer ein rhaglen trosglwyddo gwybodaeth, wedi trefnu a chynnal hyfforddiant, ac yna wedi ein helpu i fentora. Mae’r hyn y mae Yasmin wedi’i gyflawni a’r effaith ar dwf y busnes wedi bod yn amhrisiadwy.”
Cyn i mi ddechrau gyda'r cwmni dim ond yr ardystiad SALSA safonol oedd ganddyn nhw ar eu safle cig moch, ond er mwyn tyfu'r busnes penderfynwyd, gyda chymorth technegol y Ganolfan Technoleg Bwyd, i anelu'n uwch. Felly, rydym ni wedi gallu gwella ein systemau ac ennill ardystiadau BRCGS a Tractor Coch. Mae wedi bod yn llawer o waith caled ond yn werth chweil. Mae'r gefnogaeth a'r cyngor wedi bod yn wych ac maen nhw wedi bod yn allweddol wrth ein galluogi ni i gyflawni hyn."