Os yw’ch cwmni bwyd a diod wedi’i leoli yng Nghymru yna efallai y byddwch yn gymwys i gael cefnogaeth a ariennir gan Project HELIX gan Food Innovation Wales. Mae gan gwmnïau cymwys fynediad at ystod o gymorth technegol a masnachol gan ein canolfannau bwyd. Ariennir Prosiect HELIX gan Lywodraeth Cymru.
Mae Project HELIX yn cynnig cefnogaeth sydd wedi’i theilwra i anghenion eich cwmni. Mae Prosiect HELIX yn darparu gweithgarwch trosglwyddo gwybodaeth ymarferol, gan gefnogi cwmnïau o Gymru i ddatblygu ac ail-ffurfio cynhyrchion gwreiddiol o gysyniad, dylunio, datblygu a gweithgynhyrchu, ac ymlaen i fasged siopa’r defnyddiwr. Mae Prosiect HELIX yn gweithio gyda chwmnïau o Gymru i ddadansoddi’n fforensig bob cam o’r broses weithgynhyrchu, gan adnabod ffyrdd o gyflwyno arbedion ar draws rheolyddion proses, dylunio safleoedd a datblygu systemau. Mae’r dull strategol o weithio gan Broseict HELIX yn galluogi cynhyrchwyr bwyd yng Nghymru i elwa o arfer gorau a gwybodaeth o’r diwydiant o bob rhan o’r byd. Er enghraifft, gall cwmnïau dderbyn cymorth i ennill achrediad trydydd parti megis BRC a SALSA, gan agor y drws i farchnadoedd newydd ar gyfer eu cynhyrchion.
Arloesi Bwyd | Effeithlonrwydd Bwyd | Strategaeth Fwyd |
Datblygu Cynhyrchion Newydd | Datblygu Systemau | Ardystiad 3ydd Parti |
Gwybodaeth Dechnegol | Rheolyddion Proses | Hyfforddiant, Mentora a Sgiliau |
Cychwyn Busnesau Newydd | Effeithlonrwydd Cynhyrchion | Gwybodaeth am y Diwydiant |
Gwerth Ychwanegol | Dylunio Gwefan | Datblygu Busnesau Bwyd |
Deddfwriaeth Bwyd | Pecynnu | Ymgysylltu Cyhoeddus |
Ail-lunio Cynhyrchion | Dilysu Systemau | Fframwaith Arloesi |