Y mis Ionawr hwn, mae ‘Veganuary’ am i chi edrych ar y brandiau bwyd sy’n seiliedig ar blanhigion sy’n ffynnu yng Nghymru:
‘Human Food’ yw’r bar maeth dyddiol organig cyntaf sydd wedi ei wneud yn benodol ar gyfer y rhai sy’n bwyta deiet sy’n seiliedig ar blanhigion, ond mae hefyd yn dda i unrhyw un. Wedi’i ddatblygu yn Ninbych-y-Pysgod, Sir Benfro gan yr entrepreneur Ky Wright a’i gefnogi gan Ganolfan Fwyd Cymru – mae’r bariau amnewid fegan hyn wedi’u gwneud o 100% o gynhwysion naturiol, wedi’u cyfnerthu â fitaminau a mwynau cymhleth sy’n deillio o fwydydd organig cyfan. O ran arloesi, hwn yw’r unig gynnyrch bwyd yn y byd i gynnwys 100% o’r cymeriant dyddiol a argymhellir o fitamin B12 organig. Lansiodd y cwmni ymgyrch cychwynnol hynod lwyddiannus yn 2018 gan gyflwyno’r cynnyrch fegan a ariannwyd fwyaf ar y wefan erioed.

Ar ôl bod yn arloeswyr wrth ddod â bwyd llysieuol unigryw, blasus i farchnadoedd ffermwyr ledled Cymru a’r De Orllewin am dros 10 mlynedd, mae ystod ‘The Parsnipship’s’ o brydau bwyd unigryw, wedi’u crefftio â llaw, yn fwy na 90% fegan bellach. Gyda chefnogaeth Canolfan Diwydiant Bwyd Zero2Five ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, mae ‘Thai Chickpea’ a ‘Lentil Mash-Up’ feganaidd arobryn Parsnipship ymhlith nifer o gynhyrchion sydd bellach yn cael eu lansio mewn allfeydd gwasanaeth bwyd sy’n profi’r galw cynyddol am fwyd fegan blasus, arloesol ar glyd. Dywed y sylfaenydd Ben Moss “Nawr yn fwy nag erioed, rhaid i unrhyw gynhyrchydd bwyd o Gymru, neu o ran hynny, y byd i gyd, addasu i’r newid y mae gwyddoniaeth wedi’i brofi sy’n angenrheidiol i ddarparu planed mwy iach.”

Sefydlwyd Good Carma, a leolir yn Sir Gaerfyrddin, gan Charlotte Bates, sy’n frwd iawn dros fwyd feganaidd, yn 2013. Y cyntaf iddi farchnata oedd ystod o sesnin fegan yn null Parmesan wedi’i becynnu mewn tiwbiau siglo ac wedi’i wneud o almonau daear, naddion burum, a halen mwynol pinc yr Himalaya. Yn fuan, dilynwyd yr ystod hon o sesnin, sydd heb gynnyrch llaeth, gan gaws meddal hufen fegan. Gyda chymorth Canolfan Fwyd Cymru, mae’r cynhyrchion sy’n fuddiol o ran maeth wedi’u cynllunio’n bwrpasol i ddarparu opsiwn cyfleus, iach i feganiaid a rhai nad ydyn nhw’n feganiaid.

Ar ôl bod ar daith o ddarganfod er mwyn goresgyn ei frwydrau iechyd ei hun, sefydlodd Chris Joll ‘Gut Instinct’ gyda’r awydd i ddarparu ystod esblygol o gynhyrchion heb laeth gan gynnwys llaeth fegan ‘crefftus ar gyfer coffi’, mayo sy’n fegan gyfeillgar ac iogwrt wedi’u seilio ar blanhigion. Yn dilyn taith lwyddiannus i arddangos fel rhan o Bafiliwn Cymru yn sioe fasnach ‘Food Matter Live’ yng Nghanolfan Excel Llundain, bydd y tîm Datblygu Cynnyrch Newydd sydd wedi’i leoli yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd Zero2Five ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn gweithio gyda ‘Gut Instinct’ yn y flwyddyn newydd i gefnogi cenhadaeth y brand i ddatblygu cynhyrchion o ansawdd uchel sy’n gyfeillgar i’r perfedd mewn ffordd hygyrch.

Mae Crwst, micro-becws poblogaidd, sydd wedi’i droi’n ddeli-caffi-bwyty-bar yn Aberteifi yn dyst pellach i’r galw cynyddol am gynhyrchion fegan. Yn ddiweddar, gweithiodd y brand gyda thechnolegwyr bwyd yng Nghanolfan Fwyd Cymru i ddatblygu taeniad cnau cyll siocled fegan sydd ar gael yn eu deli.
