
Mae prosiect sy’n darparu cymorth technegol a masnachol i ddiwydiant bwyd a diod Cymru wedi adrodd ei fod wedi darparu dros £355 miliwn o effaith i’r sector ers ei lansio yn 2016. O ganlyniad i’w lwyddiant, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd Prosiect HELIX yn parhau i gynorthwyo’r sector tan fis Mawrth 2025.
Menter strategol Cymru gyfan yw Project HELIX a ddarperir gan Arloesi Bwyd Cymru, partneriaeth o dair canolfan fwyd yng ngogledd, canolbarth/gorllewin a de Cymru. Mae gan gwmnïau cymwys fynediad at ystod o gymorth arbenigol sy’n eu helpu i fod yn fwy arloesol, effeithlon a strategol, gan gynnwys cymorth gyda datblygu cynnyrch newydd, lleihau gwastraff, ac ardystio diogelwch bwyd fel SALSA a BRCGS.
O ganlyniad i hyn, bydd Prosiect HELIX yn gallu cefnogi gweithgynhyrchwyr mwy yng Nghymru ochr yn ochr â’r busnesau bach a chanolig a’r microfusnesau sydd eisoes wedi gallu elwa o gymorth.
Mae allbynnau diweddaraf Prosiect HELIX yn dangos ei fod wedi sicrhau manteision amlwg i ddiwydiant bwyd a diod Cymru, gan gynnwys:
- Effaith o £355,425,585 miliwn
- 683 o swyddi wedi’u creu a 3647 arall wedi’u diogelu
- 703 o fusnesau’n cael eu cefnogi
- 1391 diwrnod hyfforddiant wedi’u darparu i1184 o gyfranogwyr
- 452 busnes newydd yn cael cymorth
- 1110 o farchnadoedd newydd a gyrchwyd, a
- 2082 o gynhyrchion bwyd a diod newydd wedi’u datblygu
Wrth sôn am y llwyddiant, dywedodd yr Athro David Lloyd, ar ran Arloesi Bwyd Cymru:
Ers ei lansio yn 2016, mae Prosiect HELIX wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru trwy helpu cwmnïau i fabwysiadu dull mwy arloesol, effeithlon a strategol. Gellir gweld hyn yn y £355 miliwn o effaith yn ogystal â nifer y swyddi newydd y mae wedi helpu i’w creu a’u diogelu, yr hwb i sgiliau y mae wedi’i roi i weithlu Cymru, a nifer y cynhyrchion newydd a ddatblygwyd gyda’i gymorth.
Mae busnesau sydd wedi elwa o gefnogaeth Prosiect HELIX yn cynnwys Just Love Food Company ym Mwrdeistref Sirol Caerffili sy’n cynhyrchu cacennau dathlu alergedd cyfeillgar. Trwy Brosiect HELIX, cafwyd Aelod Datblygu Cynnyrch Newydd a ariennir yn rhannol i’r i ddarparu cymorth gydag asesu risg cynhwysion ar gyfer nodi presenoldeb alergenau.
Derbyniodd Bluestone Brewing Co yn Sir Benfro gefnogaeth trwy Brosiect HELIX i sicrhau ardystiad diogelwch bwyd SALSA, gan alluogi’r busnes i sicrhau ystod ehangach o gwsmeriaid.
Dywedodd Simon Turner, Sylfaenydd Bluestone Brewing:
Mae’r gefnogaeth a gawsom gan Arloesi Bwyd Cymru wedi bod ym hynod werthfawr, roedd yn wych cael rhywun wrth law i ateb ein cwestiynau a’n rhoi ar y trywydd iawn. Mae gwybodaeth a phrofiad tîm Arloesi Bwyd Cymru wedi bod yn allweddol i’n tywys drwy’r broses.
Derbyniodd Bwytai Dylan’s yng Ngogledd Cymru gymorth i ddatblygu cynnyrch newydd trwy Brosiect HELIX i’w helpu i fentro i farchnadoedd newydd trwy ddatblygu fersiynau amgylchynol o’u sawsiau.
Dywedodd David Evans, Cyfarwyddwr Bwytai Dylan’s:
Rydym wedi derbyn cefnogaeth wych gan Arloesi Bwyd Cymru o’r dechrau. Mae gwybodaeth a phrofiad eu tîm wedi bod yn allweddol wrth arwain ein cogyddion i brofi a gwerthuso diogelwch y cynhyrchion yn gywir, nid yn unig o safbwynt diogelwch bwyd ond hefyd i sicrhau uniondeb y brand.
Ychwanegodd yr Athro David Lloyd:
Ni fyddai unrhyw un o lwyddiannau Prosiect HELIX wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth a chydweithrediad y cannoedd o fusnesau bwyd a diod y mae’n fraint i Arloesi Bwyd Cymru weithio gyda nhw. Gyda’r cyllid ychwanegol hwn, edrychwn ymlaen at ddarparu cymorth parhaus i’r sector. Os nad yw’ch cwmni wedi derbyn cefnogaeth drwy Brosiect HELIX eto, yna byddwn yn eich annog i gysylltu i drafod y gwahanol fathau o gymorth y gallwn eu darparu.
I gael rhagor o wybodaeth am gymorth a ariennir gan Broject HELIX, ewch i https://foodinnovation.wales/cefnogaeth-wedii-hariannu/?lang=cy
Mae Prosiect HELIX yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac fe’i cefnogwyd yn flaenorol drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.