
Mae The Parsnipship yn gwneud cynhyrchion llysieuol a fegan unigryw a gwreiddiol arobryn o gegin gynhyrchu ym Mro Ogwr, gan gynnwys eu Potsh Ffacbys Tandwri sydd wedi ennill gwobr Great Taste.
Drwy Raglen Trosglwyddo Gwybodaeth Prosiect HELIX, llwyddodd y Parnipship i recriwtio gweithiwr cysylltiol gwerthiant a marchnata rhan-amser oedd yn gallu arwain ar feysydd marchnata a gwerthiant allweddol i’r cwmni, gan gynnwys creu strategaeth frandio a chynlluniau gwerthu a marchnata.
Cafwyd cymorth ychwanegol drwy’r Ganolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE i hwyluso cyfweliadau ymchwil marchnata i gael adborth ar ddyluniadau’r pecynnau newydd a chynnig ymchwil a mewnwelediad i dueddiadau fegan a llysieuol i’r cwmni.
Bu’r tîm technegol yn ZERO2FIVE hefyd yn cefnogi The Parsnipship i ddilysu a gwirio’r cyfarwyddiadau ail-dwymo ar gyfer eu cynhyrchion, o’r oergell ac o’r rhewgell. Gwneir hyn er mwyn sicrhau y bydd y cyfarwyddiadau ail-dwymo gorau gan y cwmni ar gyfer eu defnyddwyr, a hynny heb effeithio ar ansawdd y cynnyrch.


Manteision y cymorth
Wedi’r 12 mis cyntaf o gymorth oddi wrth ZERO2FIVE, gwelodd The Parsnipship gynnydd yn nhrosiant y gwerthiant o bron 30% ac un swydd newydd wedi’i chreu a phum swydd bresennol wedi’u diogelu. Fe wnaeth y gweithiwr gwerthiant a marchnata ddod â 10 cwsmer newydd i’r busnes.
Mae’r cwmni bellach mewn sefyllfa lawer yn gryfach i gael mynediad i farchnadoedd newydd gan gynnwys llwybrau manwerthu mwy traddodiadol, wedi iddyn nhw ennill ardystiad SALSA a datblygu pecynnau manwerthu.
Bu’r cymorth a gawsom oddi wrth ZERO2FIVE yn amhrisiadwy i The Parsnipship o ran y cynnydd rydym wedi’i wneud yn ein parodrwydd i gyflenwi cwsmeriaid newydd – yn enwedig y rheiny yn y farchnad fanwerthu a chwsmeriaid gwasanaethau bwyd mwy o faint. Bu’r cymorth yn fodd i ni gael mireinio a gwella prosesau ar draws gweithgareddau cynhyrchu a gwerthu o fewn"